![]() Sgwâr y Farchnad. | |
![]() | |
Math | bwrdeistref trefol yr Almaen, tref ardal mawr Baden-Württemberg ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 49,512 ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Bernhard Schuler ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | Neukölln, Belfort, Rovinj, Bad Lobenstein ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Böblingen district ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 48.74 km² ![]() |
Uwch y môr | 386 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 48.8014°N 9.0131°E ![]() |
Cod post | 71229 ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Bernhard Schuler ![]() |
![]() | |
Tref yn nhalaith Baden-Württemberg yn ne-orllewin yr Almaen yw Leonberg a saif rhyw ddeng milltir i orllewin Stuttgart.
Mae Leonberg yn denu nifer o dwristiaid am ei phensaernïaeth hanesyddol, gan gynnwys Sgwâr y Farchnad a'i thai ffrâm bren, Castell Leonberg, ac olion mynachlog Urdd Sant Ffransis. Ganwyd yr athronydd Friedrich Schelling yma.
Enwir y brîd o gi Leonberger ar ôl y dref. Cafodd ei fridio yn y 1840au drwy groesi Ci Sant Bernard a Chi Newfoundland, mewn ymgais i greu ôl-groesiad o Gi Mynydd y Pyreneau a oedd yn edrych yn debyg i'r llew a ymddengys ar arfbais Leonberg.[1]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search